Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 13 Rhagfyr 2021 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 13.40 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(6)2021(4) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Janet Finch-Saunders AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd.
2 Strategaeth yr ystâd
Trafododd y Comisiynwyr nifer o ffactorau sy'n berthnasol i ddatblygu Strategaeth Ystâd Comisiwn y Senedd.
Roedd y rhain yn cynnwys anghenion swyddfeydd hirdymor i’r Aelodau a staff, defnydd mwy hyblyg ac ystwyth o swyddfeydd, ystyried yr angen am bresenoldeb ar sail ranbarthol ehangach a’r defnydd o'r Pierhead.
Rhoddodd y Comisiynwyr adborth ar yr ystyriaethau strategol a nodwyd, a gwnaethant ofyn am wybodaeth ychwanegol ynghylch rhai meysydd.
3 Diweddariad ynghylch COVID-19
Hysbyswyd y Comisiynwyr am ddatblygiadau mewn perthynas â gwasanaethau'r Comisiwn, a nodwyd y byddai busnes y Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal yn rhithwir yn ystod yr wythnos i ddod, a bod y Senedd ar gau i’r cyhoedd.
Cadarnhawyd y byddai’r Aelodau a’u staff yn parhau i allu cael mynediad i Dŷ Hywel at ddibenion busnes, neu pan fo anghenion o ran llesiant os yw eu hamgylchiadau’n golygu nad ydynt yn gallu gweithio’n effeithiol gartref.
Cytunodd y Comisiynwyr, yng ngoleuni'r sefyllfa iechyd cyhoeddus presennol, y dylid gohirio neu ganslo digwyddiadau ar yr ystâd am y cyfnod hyd at hanner tymor mis Chwefror.
Gwnaethant gytuno i ail-ystyried y sefyllfa hon yn eu cyfarfod ar 31 Ionawr.
4 Cyllideb Atodol 2021-22
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am y sefyllfa ariannol yn 2021-22.
Gan ystyried y tanwariant mewn perthynas â'r gyllideb costau etholiad a neilltuwyd, a'r tanwariant a ragwelir mewn perthynas â'r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol, cymeradwyodd y Comisiynwyr y Memorandwm Esboniadol a fydd yn cynnwys gostyngiad o £1.70 miliwn yng Nghyllideb 2021-22 a osodwyd. Bydd y Memorandwm Esboniadol yn cael ei osod fel rhan o broses y Gyllideb Atodol.
Roedd hyn i fod yn amodol ar ganlyniadau cyfrifon mis Rhagfyr, a bydd y Comisiynwyr yn cael eu hysbysu ynghylch unrhyw newid.
Cafodd y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ei gymeradwyo a’i nodi gan y Comisiynwyr hefyd.
5 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am y mesurau sy'n cael eu cymryd o ran materion diogelwch a amlygwyd yn ddiweddar.
Rhoddwyd gwybod i'r Comisiynwyr hefyd am drafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar lefel uwch rhwng y Comisiwn a heddluoedd yng Nghymru.
6 Y diweddaraf am recriwtio lefel uwch
Yn unol â gofynion y Ddirprwyaeth ar gyfer ymgynghori, hysbyswyd y Comisiwn am y cynnydd a wnaed tuag at y cynigion y cytunwyd arnynt yn flaenorol i wneud newidiadau i bortffolios Cyfarwyddwr fel rhan o’r gwaith o addasu'r uwch strwythur.
Cawsant y wybodaeth ddiweddaraf am werthusiadau a oedd wedi digwydd ac ymarferion recriwtio ar y gweill. Roedd y rhain yn ymwneud â swyddi'r Prif Gynghorydd Cyfreithiol, Cyfarwyddwr Adnoddau a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd.
Gwnaeth aelodau Bwrdd Gweithredol y Comisiwn, ac eithrio’r Clerc, eu hunain yn absennol ar gyfer yr eitem hon.
7 Papurau i'w nodi:
7.a Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio a ddarperir i bob cyfarfod o’r Comisiwn.
8 Unrhyw fater arall
· Hysbyswyd y Comisiynwyr am ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (i) adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn. Roedd pedwar argymhelliad, a byddai ymateb yn cael ei ddarparu ar gyfer cyfarfod nesaf y Comisiwn; a (ii) llythyr ychwanegol yn gofyn am ystyriaeth y Comisiwn.
Cadarnhawyd i'r Comisiynwyr fod yr ymgynghoriad ar gynigion i newidiadau i Reolau'r Swyddog Cyfrifyddu yn fyw.
Ers y cyfarfod diwethaf, fe wnaeth y Comisiynwyr un penderfyniad yn ymwneud ag ymestyn y contractau presennol a oedd ar waith ar gyfer Cynghorwyr Annibynnol i'r Comisiwn.